Act 10:1-48

 Dyn ni’n gweld llaw Duw yn glir yn y ffordd y daeth â'r canwriad Rhufeinig duwiol, Cornelius, a Pedr at ei gilydd.
Roedd Pedr yn deall mai ystyr y weledigaeth oedd ei fod i fynd i gartre'r dyn yma oedd ddim yn Iddew. Yno mae'n pregethu'r newyddion da am Iesu ei farwolaeth a'i atgyfodiad, a'r ffaith mai fe ydy’r un fydd yn barnu'r byw a'r meirw. Tra roedd Pedr yn pregethu, dyma Duw yn tywallt yr Ysbryd Glân ar y gwrandawyr, yr un peth ag ar ddydd y Pentecost. Cawson nhw eu bedyddio fel arwydd o ddod i berthyn i Iesu Grist.