Act 2:1-13

 

Roedd tywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost (pum deg dydd ar ôl y Pasg), yn ddigwyddiad cyhoeddus iawn. Cafodd y credinwyr [oedd yn addoli Duw yn y deml efallai cf. Luc 24:53] eu llenwi â nerth yr Ysbryd Glân, a dyma nhw’n dechrau dweud y newyddion da am beth oedd Duw wedi ei wneud i bobl o bob cenedl (cf. Joel 2:28-29; Actau 1:8).