Act 7:1-8:1a

 Y cyhuddiad yn erbyn Steffan oedd ei fod yn dweud pethau yn erbyn y deml a'r Gyfraith Iddewig (6:13 14) (cf.Marc 14:57,58).
Yn ei amddiffyniad mae'n adrodd hanes Duw yn delio â'r genedl o ddyddiau Abraham ymlaen. Mae’n tynnu sylw at y ffordd y daeth bwriadau Duw yn wir, a’r hyn oedd Duw wedi ei addo i Abraham, Joseff a Moses. Mae'n dweud hanes Solomon yn adeiladu'r deml ac yn dyfynnu Eseia 66:1 2 i ddangos ei bod yn amhosib cadw Duw mewn un lle daearyddol. Yna mae'n cyhuddo'r Sanhedrin o fod mor benstiff â'u cyndadau oedd wedi erlid a lladd y proffwydi, ac mae'n dweud eu bod nhw bellach wedi lladd yr un oedd y proffwydi'n sôn amdano.
Wynebodd ei farwolaeth greulon gyda'r un cariad ag a ddangosodd ei Arglwydd ar y groes (Luc 23:24).