Barnabas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Cenhadwr cynnar amlwg iawn. Rydyn ni’n cael disgrifiad ohono gan Luc yn Actau 11– roedd yn llawen, yn barod i annog pobl yn eu ffydd, yn ddyn da ac yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Iddewig o ynys Cyprus, ac yn gefnder i Ioan Marc. Fel aelod o’r eglwys gynnar yn Jerwsalem gwerthodd ei eiddo er mwyn rhannu gyda’r Cristnogion eraill. Mae Paul a Luc yn ei alw yn apostol. Dyma rai pethau pwysig a wnaeth Barnabas
• Pan gafodd Paul dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus a dod i Jerwsalem wedyn, roedd pobl yn amau ei fod yn ysbïwr ar ran yr awdurdodau. Roedd Barnabas yn barod i’w groesawu, a siarad drosto a pherswadio pobl i’w dderbyn.
• Aeth Barnabas i Antiochia ar ran yr apostolion i weld y gwaith oedd yn cael ei wneud ymhlith pobl oedd ddim yn Iddewon (y cenhedloedd). Gwelodd y cyfle i Paul weithio yno.
• Gan gychwyn yn Cyprus (ei gartref) aeth wedyn ar daith genhadol hefo Paul a sefydlu eglwysi ar gyfer pobl o’r cenhedloedd yn bennaf. Mae Luc yn defnyddio’r ymadrodd ‘Barnabas a Saul’ i ddechrau, ond yn ddiddorol iawn, ar ôl y daith gyntaf hon, mae’n newid y drefn i ‘Paul a Barnabas’.
• Pan ddaeth enwaediad (hen arfer Iddewig – roedd yn rhaid i bob Iddew gael ei enwaedu fel babi) yn broblem i’r eglwys fore, daeth Barnabas a Paul i drafod y mater gyda’r Cyngor yn Jerwsalem.
• Cododd ffrae rhwng Barnabas a Paul am Ioan Marc. Roedd Ioan Marc wedi bod yn help ar y daith genhadol gyntaf, ond aeth gartre i Jerwsalem ar ôl cyrraedd Pamffylia. Roedd Barnabas am i Ioan Marc fynd hefo nhw eto ar yr ail daith genhadol, ond roedd Paul yn amharod i’w gael yn gwmni. Felly gwahanon nhw. Aeth Barnabas a Marc i ynys Cyprus, ac aeth Paul ar daith genhadol hefo Silas i’w helpu. Ond arhosodd Paul a Barnabas yn ffrindiau er na fuon nhw’n cydweithio ar ôl hynny.
• Roedd Barnabas yn sicr yn dal yn fyw yn 54 O.C. pan gafodd 1 Corinthiaid ei ysgrifennu, gan fod Paul yn cyfeirio ato yn ei lythyr.
Does dim gwybodaeth bendant amdano wedyn, dim ond traddodiadau.
(gweler Actau 4:36; 9:27; 11:22—15:41; 1 Corinthiaid 9:6; Galatiaid 2:1-13; Colosiaid 4:10)