Cesar Awgwstws

 

Ymerawdwr Rhufain. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf mewn gwirionedd, er i Iŵl Cesar reoli fel unben o’i flaen. Cafodd ei eni yn 63 C.C. a’i enw iawn oedd Gaius Julius Caesar Octavanus neu Gaius Octavius. Roedd yn nai i Iŵl Cesar, yn fab i chwaer Iŵl, sef Jwlia. Cafodd ei fabwysiadu gan Iŵl, a’i enwi yn etifedd yn ei ewyllys. 19 mlwydd oed yn unig oedd Gaius Octavius pan gafodd Iŵl Cesar ei lofruddio yn 44 C.C., ond er hynny llwyddodd yn y byd gwleidyddol peryglus ac anodd y cyfnod. Wedi marwolaeth Iŵl, daeth yn un o 3 llywodraethwr – y triumvirs – gyda Marc Anthony a chadfridog o’r fyddin Rufeinig. Roedd yn gyfnod gwaedlyd a chreulon iawn, gyda llawer yn cael eu llofruddio trwy orchymyn yr arweinwyr hyn. Yn fuan daeth Octavius a Marc Anthony i gyd-reoli dros yr ymerodraeth Rufeinig, ond erbyn 33 C.C. roedd y ddau yn elynion. Llwyddodd Octavius i ennill brwydr yn erbyn Marc Anthony yn Actium yn 31 C.C. ac daeth i reoli ar ei ben ei hun. Nid oedd am fod yn “rex” (brenin) nac yn “dictator” (unben), - roedd am fod yn Augustus (un wedi ei gysegru/ddyrchafu). Tyfodd yr Ymerodraeth, a bu’n rhaid iddo anfon llawer o filwyr i’r rhanbarthau er mwyn cadw golwg arnyn nhw. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Pax Romana enwog. Dyma gychwyn hefyd ar gyfnod llewyrchus mewn llenyddiaeth a phensaerniaeth Rufeinig, cyfnod pobl fel Horace, Virgil, Ovid, Propertius, Tibullus, a Livy. Er mwyn talu i filwyr yr ymerodraeth, roedd yn rhaid i bawb yn y gwledydd oedd wedi eu concro gan Rufain dalu trethi i Gesar – roedd y trethi hyn, a’r casglwyr trethi oedd yn cael eu cyflogi gan Ymerodraeth Rufain yn Israel yn y ganrif gyntaf (pobl fel Sacheus a Mathew) yn amhoblogaidd iawn.
(gweler Luc 2:1)