Col 3:1-17

 [Yma mae Paul yn mynd ati i gymhwyso'r gwirioneddau mawr am berson Iesu Grist, a dweud beth ddylai effaith ymarferol y pethau hynny fod ym mywyd y Cristion]. Mae'n annog Cristnogion i roi’r lle pwysica yn eu bywydau i’r Meseia a byw'r bywyd newydd yn nerth yr Ysbryd. Golyga hyn roi heibio bob pechod, drygioni ac anfoesoldeb, a chael gwared â rhagfarn hiliol a chymdeithasol sy'n rhannu pobl.
Dylai eu bywydau nhw ddangos yr un gwerthoedd ag oedd i'w gweld ym mywyd Iesu Grist ei hun.