Cora

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod yr Exodus. Gwrthryfelodd Cora (a rhai dynion eraill e.e. Dathan ac Abiram) yn erbyn Moses ac Aaron. Roedden nhw’n meddwl bod Moses ac Aaron wedi gwneud eu hunain yn bwysicach na gweddill y bobl wrth wneud teulu Aaron yn offeiriaid. Roedden nhw hefyd yn gweld bai am nad oedd Moses wedi llwyddo i fynd â’r Israeliaid i wlad yr addewid, gwlad Canaan. Cafodd y dynion yma eu lladd pan agorodd y ddaear a’u llyncu (daeargryn?). Cafodd 250 o’u dilynwyr hefyd eu lladd wrth i Dduw anfon tân i’w llosgi.
(gweler Numeri 16:1-49; 26:9-27:3; Jwdas 1:11)