Cwch o Nof Ginosar

Mae cwch o gyfnod Iesu yn Nof Ginosar: Mth 9:1; 13:2; Mc 3:9; 6:32; 8:10;Luc 5:3; In 6:17; 21:3

Oherwydd sychder yn Israel yn 1985 disgynnodd lefel y dŵr yn Môr Galilea yn is nag arfer. Ar 24 Ionawr 1986, darganfuwyd olion cwch hynafol. Yn ofalus gweithiodd archeolegwyr i symud yr olion a'u cadw nhw mewn amgueddfa yn Nof Ginosar, ger Tiberias.

Mae'r cwch ychydig dros 8 metr o hyd a 2.35 metr o led. Mae dyddio radio-carbon wedi rhoi ei oed yn 2000 o flynyddoedd, sy'n golygu ei fod yn hwylio ar y Môr Galilea tua'r un pryd ag Iesu a'i ddilynwyr.

(www.bibleplaces.com)