Cwiriniws

 

Cymeriad yn y Testament Newydd. Publius Sulpicius Quirinius oedd ei enw swyddogol ac roedd yn swyddog pwysig yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Dyma fraslun o’i yrfa -
12 C.C – conswl yn Rhufain
3 C.C.- proconswl yn Asia
3-4 O.C. – cynghorydd i Gaius Cesar
6 – 9 O.C. – Dirprwy Lywodraethwr Syria-Cilicia.
Yna ciliodd o fywyd cyhoeddus a byw yn Rhufain nes ei farwolaeth yn 21 O.C.
Ar ddechrau ei dymor fel llywodraethwr yn Syria/Cilicia, trefnodd gyfrifiad yn Jwdea pan ddaeth yr ardal yn rhan o’r Ymerodraeth. Mae hyn wedi ei gofnodi gan Josephus yr hanesydd. Mae cyfeiriad at y cyfrifiad hwn yn Actau 5:37. Dywedir mai dyma’r ail gyfrifiad. Ond mae Luc yn cyfeirio at y cyfrifiad cyntaf gafodd ei gynnal cyn i Cwiriniws gael ei benodi’n llywodraethwr Syria..
(gweler Luc 2:2)