Daniel 7:13,14

“Mab y dyn” ydy’r cyfieithiad llythrennol o’r Aramaeg yma.  Gwelwn fod Duw yn rhoi yr awdurdod a’r grym i berson dynol nid i’r pedwar creadur rhyfedd mae’n eu disgrifio ar ddechrau’r bennod.  Mae’n arwyddocaol wedyn fod Iesu yn defnyddio’r term Aramaeg “mab y dyn” i’w ddisgrifio ei hun.