Demas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd Demas yn un o gydweithwyr Paul. Cafodd ei garcharu gyda Paul hefyd. Mae’n anfon cyfarchion trwy lythyr Paul at Philemon a’r llythyr at y Colosiaid. Ond yn ail lythyr Paul at Timotheus, mae cyfeiriad trist iawn at Demas, ble mae’r apostol yn dweud fod Demas wedi troi cefn arno – am ei fod wedi cael ei ddenu gan bethau’r byd.
(gweler Colosiaid 4:14; 2 Timotheus 4:10; Philemon 24)