Diarhebion 16

Gan mai Duw ydy’r un fydd yn barnu, mae’n syniad da bod yn gwbl agored o’i flaen.  Dydy balchder ddim yn beth da yn ei olwg.  Mae yma ganllawiau ar gyfer y ffordd orau i fyw – trystio Duw, cymryd ein harwain ganddo a gwneud beth sy’n iawn.  Mae doethineb yn llawer mwy gwerthfawr na chyfoeth, ac mae yma rybuddion rhag ffolineb, balchder, drygioni a thrais.

Mae’r adnod olaf yn y bennod (adn.33) yn ein hatgoffa nad oes y fath beth â ‘siawns’ mewn gwirionedd.