Annogaeth i drystio doethineb Duw a bod yn ufudd iddo fo yn lle ymddiried yn yr hunan. Hefyd peidio dirmygu cerydd Duw, gan fod Duw yn disgyblu’r sawl mae’n ei garu (adn.1-12). Mae doethineb yn fwy gwerthfawr nac unrhyw gyfoeth (adn.13-18). Trwy ddoethineb y creodd Duw bopeth, yr achubodd ei bobl, ac y mae’n cynnal y greadigaeth. Mae’n son am y math o fywyd sy’n dystiolaeth o waith Duw ym mywyd rhywun (adn.19-35).
Diarhebion 3
|