Diarhebion 9

Mae Doethineb yn cael ei darlunio fel un sydd wedi adeiladu ei thŷ ar sylfaeni cadarn, mae wedi paratoi gwledd ac anfon morynion allan i wahodd pwy bynnag ddaw i dderbyn bywyd (adn.1-6).  Mae ceryddu’r sawl sy’n mynd i daro’n ôl yn ffolineb, ond gellir ceryddu’r doeth am ei fod yn gwybod sut i wrando a dysgu.  Mae doethineb yn esgor ar fendithion (adn.7-12). 

Mae’r darlun o Ffolineb yn adn.13-18 yn crynhoi dysgeidiaeth yr athro hyd yn hyn – mae’r Doethineb a Ffolineb yn gwahodd pobl i wledd.  Mae’r naill yn cynnig bywyd a’r llall yn cynnig marwolaeth.