Enoch

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o’r cyfnod cynoesol. Mae hefyd yn cael ei enwi yn y Testament Newydd, yng nghoeden deuluol Iesu yn Luc, ac yn y llythyr at yr Hebreaid oherwydd ei ffydd mawr. Roedd Enoch yn fab i Jared, ac yn dad i Methusela. Daeth yn enwog am ei berthynas agos gyda Duw – mae’n cael ei ddisgrifio fel un wnaeth gerdded gyda Duw. Cafodd fyw i fod yn 365 oed, ac mae’n un o ddau berson yn yr Hen Destament gafodd fynd at Dduw heb farw (Elias oedd y llall)
Mewn llenyddiaeth Iddewig mae tri llyfr hefo’r teitl Llyfr Enoch, ac mae llythyr Jwdas yn dyfynu allan o un ohonyn nhw. Yn y llyfrau, mae Enoch yn disgrifio gweledigaethau a teithiau yn y nefoedd.
Mae Enoch arall yn cael ei enwi yn yr Hen Destament, sef Enoch mab Cain. Cafodd dinas ei henwi ar ei ôl.
(gweler Genesis 5:18 -24; Luc 3:37; Hebreaid 11:5; Jwdas:14)