Trysorydd dinesig o Gorinth. Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae’n anfon cofion ar ddiwedd y llythyr at y Rhufeiniaid. Mae arysgrif ar garreg yn ninas Corinth sy’n dweud “Gosododd Erastus y pafin hwn ar ei gost ei hun fel gwerthfawrogiad o’i apwyntiad fel adeilior.” (Gwas sifil Rhufeinig yn delio hefo adeiladau a ffyrdd ydy ‘adeilior’) – ac mae’n bosib mai dyma’r Erastus sy’n cael ei enwi yn y Llythyr at y Rhufeiniaid.
(gweler Rhufeiniaid 16:23)