Exodus 1:11

Roedd yr Aifft yn wlad rymus iawn yn y cyfnod yma, a’r Pharo yn defnyddio caethweision i wireddu ei brosiectau adeiladu anferth.  Mae hieroglyffigau’r Aifft yn darlunio ‘estron’ fel dyn wedi ei rwymo gyda gwaed yn rhedeg o anaf ar ei ben.  Roedd yr Hebreaid yn gwybod yn iawn am y math yna o gamdriniaeth.