Cyfarwyddyd ynglŷn â sut i gysegru’r offeiriaid – roedd yna seremoni i’w hailadrodd am saith diwrnod yn olynol. Roedd y seremoni yn cynnwys aberthu tarw yn offrwm puro (dros bechodau Aaron a’i feibion), hwrdd yn offrwm i’w losgi yn llwyr (fel arwydd o ddiolchgarwch ac addoliad) a hwrdd arall i’w cysegru i’r gwaith o fod yn offeiriaid. Roedd peth o gig yr hwrdd yma i’w fwyta ganddyn nhw o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
Exodus 29:1-37
|