Genesis 14:1-16

Hanes brenhinoedd lleol yn ymladd yn erbyn ei gilydd yn nyffryn Sidim.  Roedd brenhinoedd pump o drefi (gan gynnwys Sodom a Gomorra) wedi ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Cedorlaomer, brenin Elam, oedd wedi bod yn eu rheoli nhw ers deuddeg mlynedd.

Roedd Cedorlaomer a brenhinoedd eraill oedd mewn cynghrair gydag o wedi concro nifer o bobloedd eraill, a llwyddodd i ennill y frwydr yma hefyd.  Dyma nhw’n ysbeilio Sodom a Gomorra, a chymryd pobl yn gaethion – gan gynnwys Lot a’i deulu.

Mae’r newyddion yn cyrraedd Abram, ac mae o’n casglu byddin o 318 at ei gilydd a mynd ar ôl Cedorlaomer, ennill y frwydr yn ei erbyn ac achub Lot a’i deulu  (Mae’n amlwg fod Abram wedi maddau i Lot am ei hunanoldeb).

Mae brenin Sodom (sef un o’r cynghrair o frenhinoedd wnaeth wrthryfela yn erbyn Cedorloamer) yn mynd i groesawu Abram yn ôl, ac yn cynnig talu iddo, ond mae Abram yn gwrthod cymryd dim.  Yna mae Melchisedec, brenin Salem (oedd yn offeiriad i’r Duw Goruchaf) yn mynd â bwyd a gwin allan ac yn bendithio Abram.