Heb 2:1-18

 

Achos bod y Meseia’n gymaint gwell, rhaid bod yn ofalus i beidio gwrthod yr achubiaeth a ddaeth trwyddo. Mae'n dangos fod Iesu'n well na’r angylion am ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth derfynol ar ran y ddynoliaeth. Gwnaeth hyn drwy ddod yn ddyn a dioddef ar y groes, ac mae wedi dewis pobl iddo'i hun a'u rhyddhau nhw o afael pechod a marwolaeth. Iesu Grist oedd yr archoffeiriad mawr a wnaeth gymod dros bechod.