Heb 3:1-4:13

 

Mae'r awdur yn rhoi esboniad o Salm 95:7-11. Mae’n pwysleisio fod Iesu Grist y Mab yn llawer gwell na Moses y gwas. Mae'n rhybuddio pobl rhag gwrthod credu, oherwydd cafodd y rhai a wrthryfelodd yn nyddiau Moses eu cosbi. Mae'n annog ei ddarllenwyr i ddal ati a meddiannu'r etifeddiaeth gafodd ei haddo iddyn nhw trwy ffydd.
Dim yr Israel ddaearol (gwlad yr addewid) oedd yr etifeddiaeth (neu’r ‘lle i orffwys’) a addawodd Duw, ond yn hytrach yr achubiaeth drwy’r Meseia.