Iago 4:1-17

 Yn lle'r heddwch a'r cyfiawnder sy'n nodweddu’r doethineb mae Duw’n ei roi (3:18) mae Iago'n ceryddu'r ffraeo ymhlith ei ddarllenwyr. Achos yr holl gweryla ydy hunanoldeb a balchder bydol.
Mae'n eu hannog nhw i sefyll yn erbyn y diafol (cf.Effesiaid 6:10-18) ac i adael i Dduw. Mae hyn yn golygu stopio ffraeo (Duw ydy'r un fydd yn barnu, dim ni), a stopio cymryd ein bywyd mor ganiataol ac ymffrostio o hyd.