In 2:23-3:21

 

Roedd llawer o bobl yn dweud eu bod nhw’n credu yn Iesu oherwydd y gwyrthiau roedd yn eu gwneud, ond rhyw gredu arwynebol oedd hynny, nid ymddiried go iawn. Enghraifft o un felly oedd y Pharisead Nicodemus.
I ddod i berthyn i deyrnasiad Duw mae'n rhaid cael genedigaeth ysbrydol. Mae Iesu'n dangos i Nicodemus fod yn rhaid credu, ac mae'n sôn amdano'i hun yn cael ei godi oddi ar y ddaear ac yn rhoi bywyd i bob un sy'n ymddiried ynddo (cf.Numeri 21:8,9).
Bydd drygioni yn cael ei farnu, ond mae Duw wedi gweithredu i achub, ac mae'r bywyd tragwyddol ar gael i bob un sy'n ymddiried yn y Mab (adn.16; cf.1 Ioan 4:9-10).