Israel

• Gwlad yn y Dwyrain Canol ar ochr ddwyreiniol Môr y Canoldir. Mae’n rhannu ffiniau gyda Lebanon, Syria, Gwlad yr Iorddonen a’r Aifft.
• Jerwsalem ydy prifddinas y wlad.
• Erbyn heddiw mae’n wladwriaeth ddemocrataidd Iddewig gyda llywodraeth ei hun.
• Hebraeg ac Arabeg ydy ieithoedd swyddogol Israel.
• O ran daearyddiaeth mae’n wlad amrywiol iawn gyda
a. gwastadedd ar hyd arfordir Môr y Canoldir
b. ardal fynyddig i’r dwyrain o’r gwastadedd arfordirol
c. ardal y Negev – ardal sy bron yn anialwch
d. dyffryn ffrwythlon yr Iorddonen.
• Yr Iorddonen ydy afon bwysicaf Israel. Mae yno ddau lyn hefyd – Llyn Galilea a’r Môr Coch (llyn mawr sy’n cael ei alw’n fôr). Mae llawer iawn o halen yn nŵr y Môr Coch, ac mae’n gorwedd 1,345 o droedfeddi o dan lefel y môr.
• Mae Israel yn wlad bwysig i bobl sy’n dilyn tair crefydd –
1. Iddewiaeth Mae’r Iddewon yn credu bod Duw wedi rhoi gwlad Israel iddyn nhw trwy ei addewidion i Abraham ac yna i Moses. Roedd teml gan yr Iddewon yn Jerwsalem o tua 860 C.C. i tua 70 O.C. Y Deml oedd canolbwynt eu crefydd. Roedd yr Iddewon yn mynd i’r Deml i aberthu i Dduw.
2. Cristnogaeth. Cafodd Iesu Grist ei eni yng ngwlad Israel ac roedd Iesu yn Iddew. Crwydrodd o amgylch gwlad Israel yn dysgu pobl am Dduw, yn iacháu a gwneud gwyrthiau. Dywedodd ei fod yn fab Duw, a’i fod wedi dod i’r ddaear i achub pobl a dod â nhw i berthynas newydd gyda Duw. Cafodd Iesu ei groeshoelio ar fryn Calfaria yn Jerwsalem, ac yna daeth yn ôl yn fyw ddau ddiwrnod ar ôl iddo gael ei gladdu. Dechreuodd ei ffrindiau ddweud y newyddion da am Iesu wrth eraill, a dyna sut cychwynnodd yr Eglwys Gristnogol.
3. Islam. Erbyn heddiw, mae mosg ar safle’r hen Deml yn Jerwsalem. Mae Moslemiaid yn credu bod y proffwyd Mohamed wedi esgyn i’r nefoedd o’r fan honno.

• Mae’r Iddewon wedi gorfod gadael gwlad Israel a mynd i fyw i wahanol rannau o’r byd ar hyd y canrifoedd oherwydd rhesymau gwleidyddol, ac wedi gweld pobl eraill yn meddiannu eu tir.
Ar ddechrau’r 19fed ganrif dechreuodd y symudiad Seioniaeth dyfu – Iddewon ar hyd a lled y byd yn penderfynu symud yn ôl i Israel ac ail feddiannu eu tir.
Cafodd gwladwriaeth Israel ei hail-sefydlu yn 1948.
(gweler Ioan 1:47; 3:10; Actau 17:23, 26, 37; Rhufeiniaid 9:27; 2 Corinthiaid 3:7,13; 11:22; Hebreaid 11:22; Datguddiad 2:14)