Lleng

 

Iachaodd Iesu ddyn gwallgo yn Gergesa. Pan ofynnodd Iesu beth oedd ei enw, dywedodd “Lleng” – oherwydd roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i fewn iddo. Term milwrol ydy Lleng – rhaniad yn y fyddin Rufeinig, tua 6,000 o filwyr yn cael eu rhannu wedyn yn 10 mintai (cohort). Cafodd yr ysbrydion drwg eu gyrru allan o’r dyn ac i mewn i genfaint o foch, a daeth y dyn i fyw bywyd normal unwaith eto.
(gweler Marc 5:9,15; Luc 8:30)