Luc 18:9 -19:10

 

Gweddi'r sawl sy’n gwybod ei fod yn bechadur ac yn haeddu dim ydy'r weddi mae Duw yn gwrando arni, nid geiriau'r person crefyddol balch. Rhaid dod at Dduw fel plentyn bach – rhaid i ni ymddiried ynddo, a bod yn gwbl agored ac yn eiddgar i dderbyn.
Roedd y dyn cyfoethog ddaeth at Iesu wedi ei gaethiwo gan ei holl feddiannau. Roedd ei gyfoeth a’r cwbl oedd gan y byd i’w gynnig yn ei rwystro rhag derbyn bywyd tragwyddol. Ond doedd gan y dyn dall ddim byd – y cwbl allai e wneud oedd gweiddi am drugaredd, a dal ati i weiddi (cf.18:1-8).
Ond wedyn, mae hanes Sacheus yn dangos fod gobaith hyd yn oed i bobl gyfoethog mae Iesu'n dweud fod iachawdwriaeth wedi dod i'r tŷ ar ôl gweld fod ymateb Sacheus iddo wedi dwyn ffrwyth go iawn yn ei fywyd.