Luc 2:21-40

 

Pan aeth Mair i Jerwsalem i gyflwyno offrwm dros ei phuredigaeth (cf.Lefiticus 12:2 8; 5:11) roedd dau berson duwiol yno i gyfarfod y plentyn a'i rieni.
Roedd Duw wedi dweud wrth Simeon y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo farw, a chyda'r babi bach chwe wythnos oed yn ei freichiau mae’n cyhoeddi fod yr addewid wedi ei chyflawni, ac yn proffwydo am effaith gweinidogaeth Iesu ar bobl (cf.1 Pedr 2:6-8).
Mae'r hen broffwydes dduwiol Anna yn dweud wrth bobl o'i chwmpas am y plentyn, ac yn diolch i Dduw amdano.