Luc 2:22-23

 Mae Luc 2:22-39 yn disgrifio Joseff a Mair yn mynd i’r deml yn Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i Dduw yn unol â’r gorchymyn yn Exodus 13:2,11-15. Roedd offrwm i gael ei roi i Dduw yn gyfnewid am y plentyn.

Mae Luc yn dweud hefyd fod Mair wedi cyflwyno’r offrwm y sonnir amdano yn Lefiticus 12:1-8. Roedd disgwyl i bob gwraig wneud hyn ar ôl cael plentyn.