Luc 4:14-30

 

Nasareth oedd y dre lle cafodd Iesu ei fagu. Yn y synagog yno, gwelodd fod y bobl ddim yn credu ynddo pan ddywedodd ei fod yn cyflawni proffwydoliaeth Eseia 61:1 2.
Mae'n atgoffa'r Iddewon fod proffwydi Duw wedi mynd at bobl o wledydd eraill pan oedd Israel yn gwrthod credu (cf.1Brenhinoedd 17:1 15; 2 Brenhinoedd 5:1 14). Doedd clywed hynny ddim yn plesio gwrandawyr Iesu o gwbl. Doedden nhw ddim yn deall addewidion Duw yn yr Hen Destament yn iawn, ac felly roedden nhw eisiau lladd Iesu.