Luc 6:17-49

 

Mae Iesu'n dangos pwy ydy'r bobl fydd yn derbyn bendithion y deyrnas. Mae hefyd yn dangos pwy ddylai fod ag ofn gweld Duw yn dod i farnu.
Mae’r hyn ddysgodd Iesu Grist am agwedd ei ddilynwyr at bobl eraill yn gwbl chwyldroadol. Cariad sy'n disgwyl derbyn dim yn ôl ydy craidd dysgeidiaeth Iesu (adn.27-38).
Rhaid i ddisgybl ddysgu gan ei athro. Rhaid iddo allu gweld yn glir ei hun cyn dechrau beirniadu pobl eraill (adn.39-42).
Yna mae Iesu'n dangos fod bywyd pawb yn dangos beth sy yn y galon. Mae'n dweud yn glir - nid gwrando ar eiriau Iesu sy'n cyfri, ond ufuddhau iddo (adn.43-49).