Mair, chwaer Martha

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu, chwaer Martha, a Lasarus, teulu oedd yn byw yn Bethania, tua dwy filltir o Jerwsalem ar y ffordd i Jericho. Daeth Iesu yn ffrindiau agos iddyn nhw.
• Pan aeth Iesu i fwyta i’w tŷ, arhosodd Mair i wrando arno, gan adael i Martha wneud y gwaith paratoi.
• Wedi i Lasarus fynd yn wael iawn, anfonodd y ddwy chwaer Mair a Martha am Iesu, ond erbyn iddo gyrraedd roedd y brawd wedi marw ac wedi ei gladdu. Wrth weld Iesu mae Mair yn dangos ei ffydd ynddo ac yn dweud na fyddai Lasarus wedi marw petai Iesu yno. Wrth weld Mair yn crio, mae Iesu yn teimlo’n ddwys iawn, ac yn torri allan i grio ei hun.
• Mae Ioan yn dweud mai Mair oedd y wraig eneiniodd draed Iesu a’u sychu gyda’i gwallt.
(gweler Luc 10:39-42; Ioan 11:1-12:3)