Doedd y Sadwceaid ddim yn credu yn y syniad o atgyfodiad (pobl yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw). Roedden nhw’n credu fod y corff a’r enaid yn darfod pan oedd rhywun yn marw. (Roedd y Phariseaid, ar y llaw arall, yn credu y byddai atgyfodiad, ar sail adnodau fel Eseia 26:12 a Daniel 12:2. Roedd syniadau diwinyddol Iesu yn nes at y Phariseaid na’r Sadwceaid.)
Camgymeriad y Sadwceaid oedd tybio fod y syniad o fywyd neu fodolaeth ar ôl atgyfodiad yn golygu yr un math o fodolaeth â’r bywyd rydyn ni’n ei brofi yn y presennol.