Mathias

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Cafodd hwn ei ddewis i gymryd lle Jwdas Iscariot wedi i Jwdas fradychu Iesu Grist, a lladd ei hun. Ar ddechrau llyfr yr Actau mae’r disgyblion wedi dewis dau olynydd posibl, ac yna’n yn bwrw coelbren (tebyg i dynnu enw allan o het) er mwyn penderfynu rhyngthyn nhw. Mathias gafodd ei ddewis. Dydyn ni ddim yn gwybod mwy o’i hanes wedyn.
(gweler Actau 1:23-26)