Mth 1:1-17:

Pwrpas yr adnodau hyn ydy dangos bod Duw yn ffyddlon i'w addewidion, a'r ffaith fod Iesu'n cyflawni'r hyn oedd Duw wedi ei addo ar hyd hanes cenedl Israel. Roedd Mathew eisiau dangos i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia, a’i fod yn perthyn i linach brenhinol Dafydd. Roedd Duw wedi addo i’r brenin Dafydd y byddai’r olyniaeth yn para am byth, ond doedd dim brenhiniaeth yn Israel o’r gaethglud ymlaen, a daethpwyd i ddeall addewid Duw fel cyfeiriad at y Meseia.

Mae'n fwy na thebyg ei fod wedi cymryd y rhestr hon o ffynonellau oedd yn “dderbyniol” gan yr Iddewon. Y tad oedd yn bwysig mewn rhestrau achau Iddewig, felly roedd yn bwysig dangos fod Joseff (‘tad’ Iesu yn ôl y gyfraith) yn dod o linach y brenin Dafydd. Iesu (sy’n golygu “Mae'r Arglwydd yn achub”) ydy’r Meseia. Iesu ydy’r mab oedd Duw wedi ei addo. Iesu ddaeth a’r addewid wnaeth Duw i Abraham yn wir (Genesis 12:1-3; 17:1-8).

Mae patrwm clir i’r rhestr (gw. adn.17) – 14 enw o Abraham i Dafydd (1:2-6); 14 o Dafydd i Jeconeia a’r gaethglud ym Mabilon (1:6-11); 14 enw o Jeconeia i Iesu (1:11-16).