Mth 2:11

 Dydy’r traddodiad fod y gwŷr doeth wedi ymweld â Iesu pan oedd newydd ei eni yn y stabl ddim yn gywir. Mae’r adnod hon yn sôn amdanyn nhw yn mynd i’r tŷ, ble’r oedd y plentyn Iesu gyda’i fam. Arwydd arall o’r ffaith fod hyn wedi digwydd hyd at ddwy flynedd ar ôl y ‘geni’ yn y stabl, ydy fod Herod wedi gorchymyn lladd pob bachgen ym Methlehem oedd dan ddwyflwydd oed.

Roedd thus a myrr yn dod o Dde Arabia, ac yn werthfawr iawn. Roedd pwys o'r myrr gorau yn costio tua 50 denariws (sef tua £2,000 i ni heddiw) ac roedd pwys o thus yn costio tua dwywaith gymaint.