Mth 2:18

 Roedd Cyfraith Moses yn galw ar bobl i ymprydio ar Ddydd y Cymod (Lefiticus 16:29,31; 23:27-32; Numeri 29:7). Ar ôl y gaethglud ym Mabilon yn y 6ed ganrif CC, mae cyfeiriad at yr Iddewon yn ymprydio ar bedwar achlysur arall bob blwyddyn (Sechareia 7:5; 8:19).

Roedd pobl hefyd yn ymprydio am resymau personol (e.e. galaru). Erbyn dyddiau Iesu roedd y Phariseaid yn ymprydio ar ddydd Llun a dydd Iau bob wythnos (gw. Luc 18:12).