Mth 21:18-22:14

 

Mae Iesu'n cyhoeddi barn Duw ar y bobl hynny oedd yn meddwl fod ganddyn nhw berthynas â Duw, ond heb ddim ffrwyth yn eu bywydau i ddangos fod hynny’n wir (cf. Jeremeia 8:13; Micha 7:1). Mae’n cyhoeddi barn Duw trwy'r weithred symbolaidd o felltithio'r ffigysbren, ac yna dyn ni’n cael tair dameg. Mae’r gynta yn dangos fod pobl y tu allan i'r sustem yn mynd i mewn i'r Deyrnas o flaen y rhai oedd yn meddwl mai nhw oedd y bob ffyddlon. Mae’r ail yn cyhuddo'r arweinwyr crefyddol o fod yn erbyn Duw, am eu bod nhw wedi lladd y proffwydi yn y gorffennol, a nawr maen nhw eisiau lladd Mab Duw ei hun (cf.Actau 7:51-52). Mae’r olaf eto'n dangos mai'r bobl o'r tu allan fyddai'n mynd i mewn i'r wledd (ond gan bwysleisio fod pob unigolyn yn gyfrifol am ei ymateb ei hun i wahoddiad Duw). [Dydy Iesu ddim yn ymosod ar Israel gyfan yn y damhegion hyn, dim ond yr arweinwyr crefyddol anffyddlon oedd yn dirmygu pobl gyffredin am beidio cadw eu mân-reolau nhw.]