Mth 28:1-20

 

Mae atgyfodiad corfforol Iesu yn ffaith hanesyddol. Ers y dydd pan gafodd y milwyr eu talu i ledaenu stori gelwyddog am beth ddigwyddodd mae pobl wedi gwrthod credu'r gwir.
Dangosodd Iesu ei hun yn fyw i'r gwragedd, ac yna cyfarfod â'i ddisgyblion ar fynydd yn Galilea. Yno mae’n cyhoeddi ei fod yn teyrnasu, ac yn rhoi’r gwaith o rannu’r newyddion da i’w ddilynwyr, ac mae’n addo y byddai gyda nhw (yn Immanuel – cf.1:23) i'r diwedd un.