Mth 6:24(i)

 “Casáu un a charu’r llall” sy yn y Roeg yn llythrennol. Ond idiom Hebreig sy yma yn cyfeirio at y ffaith fod un i gael y flaenoriaeth ar y llall.

Mae’r idiom yn cael ei ddefnyddio yn Genesis 29 i ddweud fod Jacob yn caru Rachel fwy na Lea (Genesis 29:30,31). Mae’r un peth i’w weld yn Malachi 1:3 sy’n sôn am Jacob ac Esau (Mae Paul yn dyfynnu’r adnod hon yn Rhufeiniaid 9:13). Gweler hefyd Luc 14:26 sy’n sôn am roi’r lle cynta i Iesu yn ein bywydau.