Salm 116

Salm ydy hon i’r unigolyn sy’n dod â’i offrwm diolch i’r deml.  Mae Duw wedi gwrando’i weddi a’i arwain drwy’r dyddiau tywyll.  Roedd ei sefyllfa’n gwbl anobeithiol, ond dyma Duw yn ymyrryd.  Felly, mae’n tywallt ei galon mewn diolchgarwch.  Mae’n tystio i ddaioni’r ARGLWYDD yn gyhoeddus, ac yn cysegru ei hun i wasanaethu Duw a’i addoli.