Salm 19

Emyn o fawl i Dduw y Crewr ydy’r Salm yma.  Mae’n disgrifio ysblander y greadigaeth.

adn.1-6 – mae Duw wedi datguddio’i fawredd i bawb drwy’r greadigaeth.

adn.7-11 – mae Duw wedi datguddio’i hun yn fwy penodol drwy ei ddysgeidiaeth (y Gyfraith).

adn.12-14 – ond wrth feddwl am ddysgeidiaeth Duw, mae’r Salmydd yn gweld ei bechod a’i wendidau ei hun.  Mae’n cyffesu mai Duw ydy’r unig un all ei gadw rhag pechu, ac yn gweld ei angen am faddeuant.  Yna mae’n cloi’r Salm gyda geiriau sy’n dweud mewn gwirionedd “gwneler dy ewyllys di yn fy mywyd i”