Salm 34

Mae’r Salm hon yn Gerdd Acrostig.  Mewn Cerdd Acrostig mae llinellau neu syniadau newydd yn dechrau gyda llythrennau’r wyddor Hebraeg yn eu tro.

Cefndir y Salm ydy’r hanes yn 1 Samuel 21:10-22:2 pan wnaeth Dafydd ffoi at Abimelech yr offeiriad ac yna at Achos brenin Gath.  Mae Dafydd yn clodfori Duw am ei ddaioni a’i ofal ac yn annog pobl eraill i’w drystio.

Yn adn.11-22 mae’n dysgu ei wrandawyr beth mae’n ei olygu i barchu’r ARGLWYDD a’i drystio – rheoli’r tafod, gwneud daioni a byw mewn perthynas dda gyda phawb.  Mae’n dweud fod Duw yn gofalu am y rhai sy’n galw arno (h.y. y rhai sydd ddim yn pwyso ar eu gallu eu hunain), ond mae yn erbyn y rhai hynny sy’n gwneud drygioni.  Dydy hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu y bydd bywyd yn hawdd i bobl Dduw, ond bydd Duw yn dod â nhw drwy’r cwbl.