Salm 4

Fel Salm 3, cefndir Salm 4 hefyd ydy hanes y brenin Dafydd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom (2 Samuel 15-17).  Mae’n gweddïo am help Duw.  Mae’n atgoffa’r bobl sy’n ei erlid fod Duw yn gofalu am y rhai sy’n ffyddlon iddo.  Mae’n eu rhybuddio nhw i droi at Dduw, ei addoli a’i drystio fo.  Pan mae bywyd yn anodd, troi at Dduw ydy’r peth i’w wneud.