Simon brawd Iesu

 

Brawd Iesu, gafodd ei eni i Mair a Joseff ar ôl Iesu. Mae’n cael ei enwi yn Mathew gyda tri brawd arall – Joseff, Iago a Jwdas (awdur llythyr Jwdas mae’n debyg). Fel brodyr, roedden nhw’n amheus iawn o Iesu, ac yn meddwl ei fod yn wallgo (Marc 3:21; Ioan 7:3-5). Ond wedi’r Atgyfodiad, daethon nhw i gredu ynddo, a gweithio dros yr Efengyl.
(gweler Mathew 13:55; Marc 6:3)