Simon y gweithiwr lledr

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Arhosodd Pedr yn nhŷ Simon yn Joppa. Roedd yn trin crwyn anifeiliaid yn ei waith bob dydd, a byddai llawer o Iddewon yn edrych arno fel person esgymun, gan fod cyffwrdd â chyrff marw yn gwneud person yn aflan yn ôl y Gyfraith.
(gweler Actau 9:43; 10:6-32)