Swsana

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Mae’n cael ei henwi fel un o’r merched oedd yn dilyn Iesu ac wedi cael eu hiachau ganddo. Efallai fod y merched yma yn helpu wrth brynu a darparu bwyd i gwmni Iesu, felly mae rhai ysgolheigion yn meddwl eu bod yn weddol gyfforddus yn ariannol. Does dim mwy o fanylion amdani ar gael i ni heddiw.
(gweler Luc 8:3)