Marc

Pwy ydy’r awdur?
Mae’r enw Ioan Marc i’w weld sawl gwaith ar dudalennau’r Testament Newydd – a Ioan Marc ydy awdur Efengyl Marc mae’n debyg. Doedd o ddim yn un o’r 12 disgybl gwreiddiol, ond dysgodd lawer am fywyd Iesu oddi wrth Pedr. Efallai ei fod wedi cael tröedigaeth o dan weinidogaeth Pedr, oherwydd mae Pedr yn sôn amdano fel “mab” (1 Pedr 5:13). Mae Papias (esgob yn Phrygia tua 130 O.C.) yn dweud fod Marc wedi “dehongli” geiriau Pedr ac wedi ysgrifennu’r geiriau hynny, ac mai cofnod o atgofion a phregethu Pedr ydy’r Efengyl hon.
Roedd Ioan Marc yn fab i Mair, gwraig oedd yn rhoi lle i’r Eglwys Fore gyfarfod yn ei thŷ yn Jerwsalem (Actau 12:12). Cafodd gyfle, felly, i gyfarfod gyda’r tystion cyntaf a gwrando ar eu profiadau. Roedd yn gefnder i Barnabas, aeth gyda Paul ar ei deithiau cenhadol (Colosiaid 4:10). Roedd Ioan Marc ei hun gyda Paul a Barnabas ar y daith genhadol gyntaf (Actau 13:5), ond yna penderfynodd eu gadael a mynd adre i Jerwsalem (Actau 13:13). Arweiniodd hyn at anghytuno rhwng Paul a Barnabas (Actau 15:38), ond cafodd Ioan Marc ail gyfle, a daeth yn gydweithiwr ac yn gymorth mawr i Paul (Colosiaid 4:10).

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae rhai ysgolheigion yn meddwl mai Efengyl Marc ydy’r gynharaf o’r Efengylau, ac yn ei dyddio tua 50-60 O.C. Maen nhw hefyd yn meddwl bod Mathew a Luc wedi defnyddio Efengyl Marc wrth ysgrifennu eu hefengylau nhw. Ond mae dadleuon cryf yn erbyn y farn draddodiadol hon. Mae rhai ysgolheigion yn rhoi dyddiad diweddarach i Marc, sef tua 60-70 O.C. Mae traddodiad yn dweud fod Marc wedi ysgrifennu’r efengyl yn Rhufain, canolbwynt yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae’r ffaith ei fod yn defnyddio rhai termau Lladin yn ei efengyl yn awgrymu bod hyn y bosibl.

Pam?
Fel pob un o’r efengylwyr eraill, bwriad Marc wrth ysgrifennu ydy rhoi gwybod i bobl am Iesu er mwyn iddyn nhw ddod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol. Mae Marc yn ysgrifennu ar gyfer darllenwyr Rhufeinig, ac yn rhoi adroddiad cryno (dyma’r Efengyl leiaf o’r pedair) o fywyd Iesu. Mae’n adroddiad bywiog iawn – hawdd deall hynny os mai cofnod o brofiadau Pedr fel llygad-dyst sydd yn y llyfr. Mae Marc yn dweud yr hanes gan symud o un digwyddiad i’r llall, ac yn y digwyddiadau hynny, y gweithredoedd a’r dweud, mae’n cyflwyno darlun o Iesu fel dyn, a hefyd fel Mab Duw. Cafodd yr Efengyl ei hysgrifennu yn yr iaith Roeg yn wreiddiol, ac mae’r awdur yn defnyddio arddull syml, plaen. Gan ei fod yn ysgrifennu yn bennaf ar gyfer Rhufeinwyr, mae’n egluro termau ac arferion Iddewig (e.e. Marc 7:2-4; 14:12; 15:42).

Catrin Roberts