Rhufeiniaid

Pwy ydy awdur y llythyr?

Paul (o dref Tarsus) oedd ar un adeg yn cael ei alw yn Saul. Roedd o’n Iddew, yn un o’r Phariseaid ac yn ddinesydd Rhufeinig. Cafodd ei ddysgu gan y Rabi enwog Gamaliel. Pan oedd yn ddyn ifanc roedd Paul yn erlid y Cristnogion cynnar, ond dyma fo’n cyfarfod Iesu mewn ffordd ddramatig iawn wrth fynd i Ddamascus (Actau 9) – profiad newidiodd ei fywyd yn llwyr. Cafodd gomisiwn gan Iesu i rannu’r efengyl hefo pobl o genhedloedd eraill (nid Iddewon yn unig), ac aeth ar dair taith genhadol i ddweud wrth eraill am Iesu a dechrau eglwysi newydd mewn trefi a dinasoedd, rhai yng ngwlad Twrci a Groeg e.e. Lystra, Philipi, Effesus, Corinth. Mae’r hanes yn llyfr yr Actau. Dyma pam gafodd o’r enw Apostol (mae’r gair yn golygu ‘rhywun sy’n cael ei anfon i wneud rhywbeth’ neu ‘negesydd’). Dioddefodd Paul bob math o beryglon ar y teithiau hyn, ac aeth i’r carchar am rannu’r newyddion da am Iesu. Roedd wedi gobeithio mynd ar bedwaredd taith i Sbaen, ond cafodd ei arestio yn Jerwsalem, a’i gymryd i Rufain i sefyll ei brawf o flaen yr Ymerawdwr. Cafodd ei gadw dan arestiad tŷ am ddwy flynedd, ond mae llyfr yr Actau yn gorffen yn sydyn, heb roi gwybod beth ddigwyddodd iddo fo wedyn. Mae’n debyg iddo gael ei ladd tua 67 O.C. trwy orchymyn Nero.
Mae rhai o lythyrau Paul yn llythyrau at eglwysi newydd, er mwyn eu dysgu a’u calonogi mewn amser anodd, ond mae ganddo hefyd lythyrau personol ysgrifennodd o at unigolion. Mae llythyrau Paul yn bwysig iawn achos maen nhw’n help i ni ddeall mwy am waith Iesu. Maen nhw hefyd yn help i ni fyw fel Cristnogion.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae ysgolheigion yn awgrymu fod Rhufeiniaid wedi ei ysgrifennu tua 56 - 57 O.C. pan oedd Paul yn ninas Corinth ar ddiwedd ei drydedd daith genhadol (Actau 20). Roedd am ymweld ag eglwys Rhufain, ond roedd eglwysi eraill wedi gwneud casgliad i helpu Cristnogion tlawd Jerwsalem, ac roedd yn rhaid i Paul fynd â’r arian yma i Jerwsalem cyn gwneud unrhyw beth arall.

Pam?
Erbyn i Paul ysgrifennu’r llythyr hwn, roedd eglwys fawr a llewyrchus yn Rhufain, gyda’r rhan fwyaf o’r bobl yn perthyn i genhedloedd eraill, nid yn Iddewon. Dyn ni ddim yn gwybod sut gychwynnodd yr eglwys. Doedd Paul ddim wedi bod yn Rhufain ond mae’r cyfarchion yn pennod 16 yn dangos ei fod yn adnabod nifer o bobl yno. Mae’r llythyr yn cyflwyno diwinyddiaeth ac athrawiaeth Paul mewn ffordd systematig iawn. Mae’n darllen fel traethawd diwinyddol, ond llythyr ymarferol ydy o, at grŵp o Gristnogion. Mae’n cyflwyno maniffesto’r ffydd Gristnogol, yn disgrifio cynllun Duw i achub pobl. Mae’n sôn yn arbennig am ffydd fel ffordd i ddod i berthynas iawn hefo Duw, a beth mae hynny’n ei olygu ym mywyd y Cristion. Mae rhai yn meddwl bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr er mwyn i’r bobl glywed beth oedd yn ei bregethu, achos doedd o ddim yn gallu mynd atyn nhw i Rufain. Mae eraill yn meddwl ei fod yn trio sbarduno’r eglwys i waith cenhadol. Byddai Paul angen help pobl Rhufain os oedd o am fynd i genhadu i Sbaen. Byddai clywed am haelioni a thrugaredd Duw yn y llythyr yn gwneud i’r eglwys sylweddoli pa mor fawr oedd yr angen i rannu’r Efengyl.

Catrin Roberts