Ble mae beibl.net wedi bod?
Wedi rhai diwrnodiau pryderus - newyddion da! Mae gwefan www.beibl.net yn ôl ar lein. Rydym wedi cael cwmni proffesiynol i edrych drwy’r Wefan, ac mae hi’n berffaith saff i’w defnyddio. Rydym hefyd wedi cymryd camau ychwanegol i ddiogelu’r Wefan rhag hacwyr. Mwynhewch! Ein gweddi yw y bydd Duw yn dal i’ch bendithio wrth i chi ddarllen ei Air.
Tîm beibl.net