1 Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!
Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.
2 Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!
Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
3 Broliwch ei enw sanctaidd!
Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
4 Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;
ceisiwch ei gwmni bob amser.